Mae'r Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol yn dwyn ynghyd bartneriaid o lywodraeth leol, y GIG, y trydydd sector a'r sector annibynnol gyda defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr. Ein nod yw trawsnewid gwasanaethau gofal a chymorth yng Ngorllewin Cymru. Mae ein rhanbarth yn cwmpasu ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn cynnwys ardaloedd awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Mae'n ofynnol i ni lunio Asesiad o Anghenion y Boblogaeth o dan adran 14 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ac, yn 2017, cyhoeddwyd ein hasesiad cyntaf. Roedd hon yn ddogfen bwysig, gan mai dyma'r tro cyntaf i ni lunio asesiad o anghenion iechyd a gofal ein poblogaeth fel hyn.
Ers hynny, mae canfyddiadau'r asesiad hwn wedi llywio ein gwaith cynllunio, buddsoddi a darparu gwasanaethau yng ngorllewin Cymru. Mae'n ofynnol yn awr i ni gyhoeddi ein hail asesiad. Dyma gyfle i ddiweddaru ac adnewyddu canfyddiadau ein hasesiad cyntaf ac i ystyried y cynnydd rydym wedi'i wneud.
Yn ganolog i'n dull gweithredu mae ymgysylltu a chydweithio â'r bobl sy'n byw yng Ngorllewin Cymru. Rydym wedi cydweithio'n agos â'n rhanddeiliaid, gan gynnwys ein Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, ein gweithgorau proffesiynol a rhanddeiliaid ac, yn bwysicaf oll, lle bynnag y gallwn, ein dinasyddion.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau manwl ar gyfer asesiadau poblogaeth ac mae ychydig o newidiadau pwysig ar gyfer y fersiwn hwn. Yn gyntaf, rhaid i ni roi sylw penodol i anghenion pobl awtistig a'r rheiny sy'n byw gyda Dementia.
Yn ail, rhaid i ni ystyried effaith COVID-19. Gwyddom fod hyn wedi effeithio ar bawb yn ein cymuned, ond yn enwedig y rhai sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i ni lunio Adroddiad ynghylch Sefydlogrwydd y Farchnad eleni. Mae hwn yn adroddiad ar wahân a fydd yn ystyried a oes gennym ddigon o wasanaethau yn y sector gofal ac i ba raddau y gallant ateb y galw yn y dyfodol.
Er bod yr asesiadau hyn yn ddarnau pwysig o waith, yn bwysicach mae ein gweithredoedd a fydd yn eu dilyn. Caiff y rhain eu datblygu a'u cynnwys yng Nghynllun Ardal Gorllewin Cymru y byddwn yn ei lunio erbyn mis Ebrill 2023, gan nodi ein huchelgeisiau ar gyfer y blynyddoedd i ddod.