Nifer amcanestynedig y bobl ag anhwylder iechyd meddwl.
Mae'r data yn dangos y rhagwelir y bydd 6,192 o fenywod, a 3,616 o ddynion, ag anhwylderau meddyliol cyffredin yng Ngheredigion. Erbyn 2043, mae'r amcanestyniadau yn dangos y bydd gostyngiad bach, ac y bydd 5,868 o fenywod, a 3,243 o ddynion, yn byw gydag anhwylderau meddyliol cyffredin. Mae'r data yn dangos y rhagwelir y bydd 10,425 o fenywod, a 6,276 o ddynion, ag anhwylderau meddyliol cyffredin yn Sir Benfro. Mae’r amcanestyniadau am 2043 yn dangos cynnydd bach, gyda 10,492 o fenywod, a 6,384 o ddynion, ag anhwylderau meddyliol cyffredin. Mae’r amcanestyniadau yn dangos bod 15,845 o fenywod, a 9,498 o ddynion, ag anhwylderau meddyliol cyffredin yn Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd. Mae'r amcanestyniadau cyfredol yn dangos cynnydd bach erbyn 2043, a disgwylir y bydd 16,378 o fenywod, a 9,544 o ddynion, ag anhwylderau meddwl cyffredin.
Mae'r data yn dangos bod 375 o fenywod, a 1,058 o ddynion, ag anhwylder personoliaeth wrthgymdeithasol yng Ngheredigion. Mae'r amcanestyniadau yn dangos gostyngiad yn y niferoedd hyn erbyn 2043, ac y bydd 342 o fenywod, a 933 o ddynion, ag anhwylder personoliaeth wrthgymdeithasol. Yn Sir Benfro, mae'r data yn dangos bod 571 o fenywod, a 1,676 o ddynion, ag anhwylder personoliaeth wrthgymdeithasol, ac mae'r amcanestyniadau yn dangos y bydd hyn yn gostwng erbyn 2043 i 533 o fenywod a 1,606 o ddynion. Yn Sir Gaerfyrddin, mae 907 o fenywod, a 2,551 o ddynion, ag anhwylder personoliaeth wrthgymdeithasol, ac mae'r amcanestyniadau yn dangos y bydd hyn yn gostwng yn 2043 i 887 o fenywod a 2,487 o ddynion.
Mae'r data yn dangos bod 496 o fenywod, a 558 o ddynion, 16 oed a hŷn ag anhwylder deubegynol yng Ngheredigion. Erbyn 2043, bydd hyn yn gostwng i 451 o fenywod, a 490 o ddynion. Yn Sir Benfro, mae 779 o fenywod, ac 898 o ddynion, ag anhwylder deubegynol. Erbyn 2043, mae'r data yn dangos y gallai'r niferoedd hyn ostwng ychydig i 731 o fenywod, ac 871 o ddynion. Yn Sir Gaerfyrddin, mae 1,224 o fenywod, a 1,372 o ddynion, ag anhwylder deubegynol. Mae'r amcanestyniadau yn dangos niferoedd tebyg erbyn 2043, ac y bydd 1,202 o fenywod, a 1,347 o ddynion, ag anhwylder deubegynol. Ar draws rhanbarth Gorllewin Cymru, mae anhwylder deubegynol yn effeithio mwy ar ddynion na menywod, ac eithrio yn y categorïau oedran 16-24 a 65-74.
Mae'r data yn dangos bod 643 o fenywod yng Ngheredigion ar hyn o bryd, a 448 o ddynion, ag anhwylder personoliaeth ffiniol. Mae'r amcanestyniadau hyd at 2043 yn dangos bod disgwyl gostyngiad bach, i 602 o fenywod, a 414 o ddynion. Yn Sir Benfro, mae'r data yn dangos bod 898 o fenywod ar hyn o bryd, a 602 o ddynion, ag anhwylder personoliaeth ffiniol. Mae’r amcanestyniadau am 2043 yn dangos gostyngiad bach yn y ffigurau hyn, i 839 o fenywod, a 600 o ddynion. Yn Sir Gaerfyrddin, ar hyn o bryd mae 1,422 o fenywod, a 963 o ddynion, ag anhwylder personoliaeth ffiniol. Mae'r amcanestyniadau cyfredol yn dangos newid bach, i 1,402 o fenywod, a 944 o ddynion, erbyn 2043. Ar draws rhanbarth Gorllewin Cymru, mae'r data yn dangos bod y cyflwr yn fwyaf cyffredin ymhlith pobl 16-34 oed.
Mae'r data yn dangos bod 169 o fenywod yng Ngheredigion ar hyn o bryd, a 113 o ddynion, ag anhwylderau seicotig. Erbyn 2043, mae'r amcanestyniadau cyfredol yn dangos gostyngiad bach yn y niferoedd hyn, i 154 o fenywod, a 94 o ddynion. Yn Sir Benfro, mae 297 o fenywod, a 205 o ddynion, ag anhwylderau seicotig. Mae'r amcanestyniadau yn dangos ychydig iawn o newid erbyn 2043, ac y bydd 291 o fenywod, a 200 o ddynion, ag anhwylderau seicotig. Yn Sir Gaerfyrddin, ar hyn o bryd mae 458 o fenywod, a 304 o ddynion, ag anhwylderau seicotig. Mae'r amcanestyniadau yn dangos ychydig iawn o newid, a disgwylir y bydd 461 o fenywod, a 306 o ddynion, ag anhwylderau seicotig yn 2043.
Mae 3,785 o bobl ar y Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau iechyd meddwl yn rhanbarth Gorllewin Cymru.
Budd-daliadau ac Iechyd Meddwl
Yng Ngheredigion, mae bron i hanner yr holl unigolion sy'n derbyn y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gwneud hynny oherwydd cyflyrau iechyd meddwl neu ymddygiadol. Yr haf diwethaf, roedd 992 o hawlwyr o'r fath allan o gyfanswm o 2,178 yn yr ardal. Mae'r duedd hon yn gyson ledled Prydain, lle mai cyflyrau meddyliol ac ymddygiadol yw'r rheswm mwyaf cyffredin dros hawlio'r budd-dal, gan effeithio bron i hanner yr 1.6 miliwn o bobl sy'n derbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.